Y Cylch Catholig

Cysylltwch a

Ron Keating rmkeating@hotmail.com

Cartref / Home Cyfarfodydd/Meetings Pererindod/Pilgrimage Encil / Retreat

Pob un yn clywed yn ei iaith ei hun

Erthyglau Links i ddod / coming up

Litwrgi’r Gair gyda Chymun Ysbrydol

Dydd Sul y Blodau (Blwyddyn A)

 

Yn y cyfnod anodd hwn, pan mae popeth o chwith a phatrymau rheolaidd ein bywydau’n cael eu newid, trown at Dduw; yr ydym yn dibynnu ar ei drugaredd a’i gariad tosturiol atom ni i gyd. Paratowyd y gwasanaeth hwn fel cymorth i’n gweddi pan nad yw’n bosibl mynd i’r Offeren. Bydd ein hoffeiriaid yn dathlu’r Offeren dros yr Eglwys a thros y byd yn y cyfnod hwn, a gallwn ni ymuno â nhw mewn gweithred o Gymun Ysbrydol. Disgrifiodd San Tomos o Acwin Gymun Ysbrydol fel ‘chwant taer i dderbyn Iesu yn y Sagrafen sancteiddiaf, a’i gofleidio’n gariadus.’ Fel y mae patrymau ein bywydau yn newid, dylen ni ymdrechu i gadw patrwm gweddi ac addoli yn ddyddiol, a dyma’r ffordd allen ni uno mewn gweddi â’n Harglwydd a’i fyd.

 

CYFLWYNIAD:

I rai bydd lle arbennig yn gymorth fel ffocws i’w gweddïau, gall y lle hwn gynnwys Croesbren, eicon, delwedd sanctaidd neu cannwyll wedi’i oleuo.

 

Hosanna i Fab Dafydd, Frenin Israel!

Bendith ar yr hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.

Hosanna yn y goruchaf.

 

ARWYDD Y GROES

Yn enw’r Tad  a’r Mab  a’r Ysbryd Glân. Amen

 

Er dechrau’r Grawys yr ydym wedi paratoi ein calonnau trwy benyd a gwaith dyngarol. Heddiw, er ar wahân, yr ydym yn cofio gyda’r holl Eglwys ddirgelwch Ŵyl y Pasg ein Harglwydd, sef ei ddioddefaint a’i atgyfodiad, Fe ddechreuodd gyflawni’r dirgelwch hwn trwy ymdeithio i mewn i’w ddinas sanctaidd Jerwsalem. gadewch inni gofio’r ymdaith hon yn llawn ffydd a defosiwn; gadewch inni ddilyn ôl traed ein Harglwydd, fel y cawn ras i fod yn gymdeithion iddo ar ffordd y groes, neu rhannu hefyd ei atgyfodiad a’i fywyd.

 

Darlleniad o’r Efengyl Sanctaidd yn ôl Mathew (21. 1-11)

Gogoniant i ti, O Arglwydd.

Pan ddaethant yn agos i Jerwsalem a chyrraedd Bethffage a Mynydd yr Olewydd, anfonodd Iesu ddau ddisgybl gan ddweud wrthynt, “Ewch i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn syth fe gewch asen wedi ei rhwymo, ac ebol gyda hi. Gollyngwch hwy a dewch â hwy ataf. Ac os dywed rhywun rywbeth wrthych, dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr eu hangen’; a bydd yn eu rhoi ar unwaith.” Digwyddodd hyn fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:

“Dywedwch wrth ferch Seion,

‘Wele dy frenin yn dod atat,

yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,

ac ar ebol, llwdn anifail gwaith.’ ”

Aeth y disgyblion a gwneud fel y gorchmynnodd Iesu iddynt; daethant â'r asen a'r ebol ato, a rhoesant eu mentyll ar eu cefn, ac eisteddodd Iesu arnynt. Taenodd tyrfa fawr iawn eu mentyll ar y ffordd, ac yr oedd eraill yn torri canghennau o'r coed ac yn eu taenu ar y ffordd. Ac yr oedd y tyrfaoedd ar y blaen iddo a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:

“Hosanna i Fab Dafydd!

Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.

Hosanna yn y goruchaf!”

Pan ddaeth ef i mewn i Jerwsalem cynhyrfwyd y ddinas drwyddi. Yr oedd pobl yn gofyn, “Pwy yw hwn?”, a'r tyrfaoedd yn ateb, “Y proffwyd Iesu yw hwn, o Nasareth yng Ngalilea.”

Gogoniant i Dduw am ei Air.

Moliant i ti, O Grist.

 

Y COLECT

Gweddïwn:

Hollalluog dragwyddol Dduw,

wrth anfon ein Gwaredwr i ddyfod yn y cnawd

a dioddef ar y Groes,

fe’i rhoddaist i’r ddynoliaeth yn esiampl o ostyngeiddrwydd:

dyro i ni ddysgu oddi wrth ei barodrwydd ef i ddioddef drosom,

fel y cawn ein derbyn i gymdeithas ei atgyfodiad.

Trwy Iesu Grist, dy Fab, ein Harglwydd,

sydd gyda thi yn undod yr Ysbryd Glân yn Dduw byw,

a’i frenhiniaeth yn parhau yn oes oesoedd. Amen.

 

GAIR DUW

Y DARLLENIAD CYNTAF  Daw’r darlleniad cyntaf o Lyfr y Proffwyd Eseia (50.4-7)

Rhoes yr Arglwydd Dduw i mi dafod un yn dysgu,

i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair;

bob bore y mae'n agor fy nghlust

i wrando fel un yn dysgu.

Agorodd yr Arglwydd Dduw fy nghlust,

ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.

Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,

a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;

ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.

Y mae'r Arglwydd Dduw yn fy nghynnal,

am hynny ni chaf fy sarhau;

felly gosodaf fy wyneb fel callestr,

a gwn na'm cywilyddir.

Gogoniant i Dduw am ei Air. Diolch i ti, O Dduw.

 

SALM 22 (7-8;16-19 a 22-23)

Ateb: Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?

 

Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,

yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:

“Rhoes ei achos i'r Arglwydd, bydded iddo ef ei achub!

Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”

 

Y mae cŵn o'm hamgylch,

haid o ddihirod yn cau amdanaf;

y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.

Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn.

 

Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,

ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.

Ond ti, Arglwydd, paid â sefyll draw;

O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.

 

Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod,

a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:

“Molwch ef, chwi sy'n ofni'r Arglwydd;

rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob;

ofnwch ef, holl dylwyth Israel.

 

YR AIL DDARLLENIAD:  Daw’r ail ddarlleniad o Lythyr yr Apostol Paul at y Philipiaid (2.6-11)

Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.

Gogoniant i Dduw am ei Air. Diolch i ti, O Dduw.

 

YR EFENGYL   Darlleniad o’r Efengyl Sanctaidd yn ôl Mathew (27.11-54)

Gogoniant i ti, O Arglwydd.

Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.” A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?” Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.

Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas.  Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?” Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef.

A thra oedd Pilat yn eistedd ar y brawdle anfonodd ei wraig neges ato, yn dweud, “Paid â chael dim i'w wneud â'r dyn cyfiawn yna, oherwydd cefais lawer o ofid mewn breuddwyd neithiwr o'i achos ef.”

Ond perswadiodd y prif offeiriaid a'r henuriaid y tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. Atebodd y rhaglaw gan ofyn iddynt, “P'run o'r ddau a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi?” “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.” “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.” Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.” Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.” Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano; plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!” Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”, ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren, ac eisteddasant yno i'w wylio.

Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.” Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith.

Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, yn ysgwyd eu pennau ac yn dweud, “Ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau, achub dy hun, os Mab Duw wyt ti, a disgyn oddi ar y groes.” A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd â'r ysgrifenyddion a'r henuriaid, yn ei watwar ac yn dweud, “Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun. Brenin Israel yn wir! Disgynned yn awr oddi ar y groes ac fe gredwn ynddo. Ymddiriedodd yn Nuw; boed i Dduw ei waredu yn awr, os yw â'i fryd arno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydwyf.’ ” Yr un modd, yr oedd hyd yn oed y lladron a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

O ganol dydd, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. A thua thri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eli, Eli, lema sabachthani”, hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, “Y mae hwn yn galw ar Elias.” Ac ar unwaith fe redodd un ohonynt a chymryd ysbwng a'i lenwi â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. Ond yr oedd y lleill yn dweud, “Gadewch inni weld a ddaw Elias i'w achub.” Gwaeddodd Iesu drachefn â llef uchel, a bu farw.

 

Penliniwch ac arhoswch am funud.

 

A dyma len y deml yn cael ei rhwygo yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Siglwyd y ddaear a holltwyd y creigiau; agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno. Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer. Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.”

Gogoniant i Dduw am ei Air. Moliant i ti, O Grist.

 

Myfyrdod distaw neu fel teulu gallwch rannu eich sylwadau neu feddyliau am y darlleniadau

 

YMBILIAU

 

Offrymwn i Dduw ein Tad weddïau’r Eglwys, y darostyngodd ein Harglwydd Iesu Grist ei hun yn ddi-oed er ei mwyn, a dioddef ing y groes.  Wedi ein dwyn i obaith sicr gan ei angau, gweddïwn y cawn ein tywys gan ei Atgyfodiad i’r man lle mae ef yn ein galw.

 

Gweddïwn dros yr Eglwys drwy’r holl fyd:

boed i droeon a digwyddiadau’r Wythnos Fawr gynorthwyo pob Cristion i gyffesu a chyhoeddi Iesu Grist yn Arglwydd er gogoniant Duw Dad.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros fywyd yr Eglwys yr ydym ni’n rhan ohoni yn y gymuned hon:

boed i’r dyddiau sanctaidd hyn gael eu llenwi ag ysbryd o edifeirwch ac o ystyriaeth, o ddiolchgarwch ac o lawenydd.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros bawb sy’n ceisio heddwch a’i lawenydd:

boed i dangnefedd yr Arglwydd a atgyfododd fod iddynt yn wobr.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros bawb sy’n diffygio tan ofalon bywyd:

boed i’r Eglwys gan lefaru â thafod un yn dysgu,

gyhoeddi iddynt y newydd da am lawenydd a thangnefedd.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros y rhai sy’n dyheu am gyfiawnder:

boed iddynt gael cysur a nerth yn yr Arglwydd

a wacaodd ei hun ac a ddaeth i fyw yn ein plith.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros y rhai sy’n cael eu curo a’u sarhau:

boed i gyfiawnder a hedd, iachâd a chyfanrwydd bywyd

fod yn eiddo i bawb drwy’r holl fyd.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros y rhai sydd, yn eu poen a’u salwch, yn rhannu yn Nioddefaint Crist:

boed i’r Arglwydd ddod i’w cynorthwyo a thywallt arnynt

ei fendithion a’i dangnefedd.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros ein cymunedau lleol:

boed i’r ffordd gariadus yr ydym yn trin ein gilydd ysgogi eraill i gyffesu a chyhoeddi Iesu yn Arglwydd.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

Gweddïwn dros y ffyddloniaid ymadawedig:

boed iddynt gael eu dyrchafu fry i ogoniant y nefoedd.

Arglwydd, gwrando ein gweddi.

 

O Dduw Dad,

aeth dy Fab rhagddo i farw drosom.

Caniatâ i ni ddilyn esiampl ei ddioddefgarwch ef

ac ennill cyfran yn ei Atgyfodiad.

Trwy Grist ein Harglwydd. Amen.

 

GWEDDI’R ARGLWYDD

Gan ddilyn ei athrawiaeth a’i gyfarwyddyd ymunwn yn hyderus yn ei weddi ef, gan ddweud:

Ein Tad, y sy yn y nefoedd,

sancteiddier dy enw,

deled dy deyrnas,

bydded dy ewyllys,

ar y ddaear megis yn y nef.

Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,

a maddau i ni ein dyledion,

fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr.

Ac nac arwain ni i brofedigaeth,

eithr gwared ni rhag drwg.

 

CYMUNDEB YSBRYDOL

Buddiol iawn yw gwneud Cymun Ysbrydol, hynny yw, dymuno’n daer am dderbyn ein Harglwydd Iesu a’i wahodd i ddod yn ysbrydol i mewn i’ch enaid. Gallwch weddïo fel y canlyn:

 

GWEDDI SANT ALPHONSUS

Fy Iesu,

rwy’n credu dy fod ti’n wir bresennol yn Sagrafen Sanctaidd yr allor;

Rwy’n d’addoli di, rwy’n dy garu di â’m holl galon.

Maddau imi fy mhechodau;

trwy gymorth dy ras ni phechaf ddim mwy.

Tyrd i’m calon ac na oddef imi ymadael â Thi byth. Amen.

 

Amser i weddïo a diolch i’r Arglwydd am ddod atom ni yn y ffordd arbennig hon.

 

Y BENDITH

Bydded i’r Arglwydd ein bendithio, ein cadw rhag pob drwg,

a’n harwain i’r bywyd tragwyddol. Amen.

 

Y MEMORARE

Cofia, Fair, forwyn fwynaf,

na chlywyd erioed i neb ffoi i’th nawdd,

na cheisio dy eiriolaeth,

nac erfyn dy help,

a’i adael yn ddigymorth.

Minnau’n gyflawn o’r cyfryw hyder,

atat ti y ffof, Forwyn y morynion, fy Mam;

atat ti y deuaf

a sefyll ger dy fron yn bechadur wylofus.

Na ddiystyra fy ngeiriau, O Fam y Gair,

ond yn dy drugaredd,

clyw fy ngweddi a gwrando arni.

 

Y testunau Beiblaidd: © Cymdeithas y Beibl 2004.

Yr Ymbiliau: https://www.churchinwales.org.uk/cy/publications/liturgy/Lent_Holy_Week_Easter/